Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021
Amser:
09.15 -
11.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11112
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Yr Athro Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio Yr Athro Alka Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r Glasoed, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC Cymru), ac Arweinydd Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru Yr Athro Adrian Edwards, Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth newydd Cymru ar gyfer COVID-19, Cyfarwyddwr Canolfan PRIME Cymru (canolfan Cymru gyfan ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys) a meddyg teulu rhan amser Dr David Tuthill, Pediatregydd Ymgynghorol a Swyddog Cymru yng Ngholeg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi penderfynu, pe bai hi’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd
ymddiheuriadau.
2 COVID-19: iechyd meddwl ac iechyd corfforol
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Ann John, yr Athro Alka Ahuja, yr
Athro Adrian Edwards a Dr David Tuthill ar faterion sy’n
ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
5 Covid-19 Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.